Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Mawrth 2022
Amser:
09.05 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12663
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Gill Harris, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Sue Hill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mark Polin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Teresa Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
2 Papur i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (31 Ionawr 2022)
2.2 Rhwystrau rhag gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (15 Chwefror 2022)
2.3 Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd: Gohebiaeth ar ddefnyddio'r term BAME
3 Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Bwrdd Iechyd
3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gill Harris. Roedd Teresa Owen yn bresennol yn ei lle.
3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan dystion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y tystion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am nifer o gamau gweithredu ym mis Medi 2022.
4 Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd Llywodraeth Cymru ar gyfer GIG Cymru
4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y tystion o Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gyda'r cwestiynau o'r sesiwn.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.